general dynamics

Croeso i wefan swyddogol Diwrnod Lluoedd Arfog Caerdydd 2010.

Oriel Lluniau
Cefnogwch â saliwt
Cefnogwch â saliwt


Ym mis Mehefin 2009 derbyniodd Arglwydd Faer Caerdydd, y Cynghorydd Brian Griffiths, wahoddiad swyddogol gan y Weinyddiaeth Amddiffyn i gynnal dathliadau Diwrnod Cenedlaethol y Lluoedd Arfog 2010.

Gyda'r gwrthdrawiadau sy'n mynd rhagddynt ar hyn o bryd, mae ein Lluoedd Arfog yn hoelio sylw'r byd. Bydd Diwrnod y Lluoedd Arfog yn caniatáu i ni, fel cenedl, anrhydeddu gorffennol, presennol a dyfodol y dynion a'r merched dewr sy'n gwasanaethu ein gwlad, a'u hanrhydedddu.

Ddydd Sadwrn 26 Mehefin 2010, bydd Caerdydd, prifddinas Cymru yn cynnal yr ail Ddiwrnod Lluoedd Arfog cenedlaethol, gyda chymorth Llywodraeth Cynulliad Cymru, Cyngor Caerdydd a'r Weinyddiaeth Amddiffyn.

Wrth dderbyn y gwahoddiad, dywedodd yr Arglwydd Faer, y Cynghorydd Brian Griffiths:

"Mae'n anrhydedd ac yn fraint i Gaerdydd fod yn gartref i Ddiwrnod y Lluoedd Arfog yn 2010. "Mae cynnal y digwyddiad flwyddyn nesaf yn rhoi cyfle i Gaerdydd a gweddill Cymru ddangos ein cefnogaeth i'r bobl ddewr sydd wedi brwydro dros ein gwlad yn y gorffennol yn ogystal â'r rhai sy'n dal i wneud hynny heddiw."

Mae gan Gymru hanes milwrol cryf gyda Chaerdydd yn gartref i 3ydd Bataliwn y Gwarchodlu Brenhinol Cymreig ym Marics Maendy. Mae'r cynlluniau sydd eisoes ar droed yn addo y bydd digwyddiad y flwyddyn nesaf yn rhywbeth y gall Cymru a'r DU ymfalchïo ynddo."

CEFNOGWCH ac ymunwch â ni am ddiwrnod fydd yn llawn seremonïau a chyffro wrth goffau. Yn anad dim, bydd yn gyfle i anrhydeddu lluoedd y gorffennol, y presennol a'r dyfodol.

ID: 51   Adolygwyd: 25/6/2010


Diwrnod Y LLuoedd Arfog